SL(6)431 – Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) (Cymru) 2023

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio amryw Reoliadau presennol sy’n ymwneud â chyllid myfyrwyr.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi’u rhannu’n naw Rhan:

·         Mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch dod â’r Rheoliadau hyn i rym a’u cymhwyso;

·         Mae Rhan 2 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”);

·         Mae Rhan 3 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”);

·         Mae Rhan 4 yn diwygio Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”);

·         Mae Rhan 5 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”);

·         Mae Rhan 6 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”);

·         Mae Rhan 7 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol”);

·         Mae Rhan 8 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”); ac

·         Mae Rhan 9 yn gwneud arbedion mewn cysylltiad â Rheoliadau 2014 a Rheoliadau 2018.

Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn:

·         yn diweddaru’r categorïau o fyfyrwyr cymwys yn Rheoliadau 2014, Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018, y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol a Rheoliadau 2019 ac yn gwneud newidiadau cyfatebol i Reoliadau 2007 a Rheoliadau 2015, i gynnwys aelodau penodol o deuluoedd personau y rhoddwyd caniatâd iddynt i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan y cynlluniau mewnfudo sy’n ymwneud ag Affganistan neu Wcráin;

·         yn diweddaru’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan” yn Rheoliadau 2014 o ganlyniad i newidiadau i’r rheolau mewnfudo;

·         yn hepgor cyfeiriadau darfodedig at ddeddfwriaeth yr Alban yn Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018;

·         yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr dysgu o bell fod yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf er mwyn cymhwyso i gael grant ar gyfer dibynyddion, oni bai bod eithriad yn gymwys, o dan Reoliadau 2018; ac

·         yn darparu ar gyfer terfynu cymhwystra yn gynnar o dan y Rheoliadau Benthyciadau at Radd Ddoethurol a Rheoliadau 2019 pan fo mathau penodol o ganiatâd sydd gan fyfyriwr i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi wedi dod i ben.

 

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Nodwyd yr wyth pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn rheoliad 5(b), yn y diffiniad newydd o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan”, ym mharagraff (a), mae cyfeiriad at “baragraff 276BA2 o’r rheolau mewnfudo”. Fodd bynnag, dangosir “paragraff 276BA2” fel un sydd wedi’i ddileu yn y rheolau mewnfudo ar wefan Llywodraeth y DU. Nid yw'n glir a oes angen diweddaru'r cyfeiriad hwn yn y diffiniad neu a yw'n cyfeirio at ddinasyddion Affganistan sydd eisoes wedi cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig o dan y paragraff hwnnw. Mae cyfeiriadau eraill hefyd at “baragraff 276BA2” yn y diwygiadau a geir yn rheoliadau 9(a) a 16(b).

 

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn rheoliadau 19(b), 21(b) a 22(b), mae’n ymddangos bod y diwygiadau wedi’u drafftio’n anghywir gan y bydd y geiriau “y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig” ar goll o’r testun newydd fel y’i diwygiwyd.

Er enghraifft, o ganlyniad i’r diwygiad a geir yn rheoliad 19(b) o’r Rheoliadau hyn, bydd testun newydd rheoliad 4(10F)(b) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 yn darllen fel a ganlyn:

“…y cyfnod [y caniateir i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros] fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi terfynu, ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi…”.

 

Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod angen y geiriau ychwanegol “aros yn y Deyrnas Unedig” ar ôl y geiriau “y caniateir” er mwyn cwblhau ystyr y frawddeg, yn enwedig o'i chymharu â diwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn (e.e., rheoliadau 12(b) a 63). Pe bai’r geiriau hynny’n cael eu cynnwys, byddai’r testun diwygiedig yn darllen fel a ganlyn:

 

“…y cyfnod y caniateir i’r [“person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros] fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir [aros yn y Deyrnas Unedig] wedi terfynu, ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi…”.

 

Felly, mae angen esbonio’r diwygiadau hyn ymhellach o ran a ddylai’r geiriau ychwanegol hyn fod wedi’u cynnwys hefyd yn y testun terfynol fel y’i diwygiwyd gan reoliadau 19(b), 21(b) a 22(b) o’r Rheoliadau hyn.

 

3.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 36(c)(i) a (ii), disgrifir lleoliadau’r testun presennol ar gyfer y diwygiadau yn anghywir fel “is-baragraff (aa)” ac “is-baragraff (ab)” yn y drefn honno ond dylid eu disgrifio fel “paragraff (aa)" a "paragraff (ab)”.

 

4.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

 

Yn rheoliad 55(a) a (b), disgrifir lleoliadau’r testun presennol ar gyfer y diwygiadau yn anghywir fel “is-baragraff (b)” ond dylid ei ddisgrifio fel “paragraff (b)”.

 

5.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

 

Yn rheoliad 56, disgrifir y diffiniadau newydd fel rhai sydd wedi’u mewnosod “yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor” yn Nhabl 16 o Atodlen 7 i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018. Fodd bynnag, nid yw’r diffiniadau newydd wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor yn nhestunau Cymraeg na Saesneg rheoliad 56. Dylai’r ail ddiffiniad ““dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” (at ddiben penderfynu a yw person yn bartner a [d]diogelir neu’n blentyn i bartner a ddiogelir)” ymddangos o flaen y diffiniad cyntaf yn rhestr testunau’r ddwy iaith os ydynt i’w trefnu yn nhrefn yr wyddor pan gaiff ei fewnosod yn Nhabl 16 o Atodlen 7. Yn ogystal, mae fformatio’r rhestr o gofnodion tablau yn ddryslyd gan fod llinell lorweddol sengl yn ymddangos ar ôl y diffiniad cyntaf yn y testunau Cymraeg a Saesneg, ac mae llinellau ychwanegol hefyd yng nghanol yr un diffiniad ar waelod ac ar frig y tudalennau 25 a 26 yn y testun Cymraeg.

 

6.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) - ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Yn rheoliad 56, yn y testun Cymraeg, mae’n ymddangos bod gwall hanesyddol a gedwir yn y diffiniad newydd terfynol o “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” a geir yn y rhestr ar gyfer “Atodlen 2, paragraff 3”. Cyfieithir y diffiniadau eraill yn y rhestr yn wahanol fel “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros”. Mae’n wir mai “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r diffiniad a ddefnyddiwyd yn nhestun Cymraeg paragraff 3(2)(b), (3)(b) a (5) o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018. Ond ystyr “leave application date” ym mharagraff 3(5) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny yw “y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at roi caniatâd i’r person hwnnw i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig”. Felly, mae’r cyfieithiad presennol o’r term hwnnw yn anghywir oherwydd ei fod yn golygu “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yn hytrach na “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ac y mae’r gwall hanesyddol hwnnw’n cael ei gadw gan y diffiniad Cymraeg a restrir ar gyfer “Atodlen 2, paragraff 3” gan reoliad 56 o’r Rheoliadau hyn. Dylai’r testun Cymraeg nodi “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” fel sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y cofnodion eraill a restrir yn rheoliad 56.

 

7.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) - ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Yn rheoliad 80(3), yn y testun Cymraeg, mae’r diffiniad “current Afghan scheme student” wedi’i gyfieithu a’i ddiffinio fel “myfyriwr presennol sydd ar y cynllun Afghanistan” at ddibenion y rheoliad hwnnw. Fodd bynnag, nid dyma’r term sydd wedi’i ddefnyddio mewn gwirionedd yn nhestun Cymraeg rheoliad 80(1) sef “myfyriwr cyfredol sydd ar y cynllun Affganistan” (y term a ddiffiniwyd yn flaenorol ac a ddefnyddiwyd yn gyson yn nhestun Cymraeg rheoliad 79). Mae hefyd yn golygu bod y diffiniad Cymraeg a geir mewn testun italig rhwng cromfachau yn union ar ôl y diffiniad o “current Afghan scheme student” yn nhestun Saesneg rheoliad 80(3) yn anghywir.

 

8.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) - ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft

Yn rheoliad 80(3), yn y testun Saesneg, nid yw’r diffiniadau o “relevant course” a “relevant student” yn cynnwys y diffiniadau Cymraeg cyfatebol mewn testun italig a rhwng cromfachau wedyn.

 

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â'r offeryn hwn:

9.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff 5.1 a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Ni chynhaliwyd ymgynghoriad gan fod rhai o'r gwelliannau yn ofynnol i gywiro a diweddaru'r gyfraith sy'n deillio o newidiadau i reolau mewnfudo ac i ddileu darpariaeth reoleiddiol ddiangen.  Mae diwygiadau eraill sy'n ymestyn cymhwystra ar gyfer cymorth i fyfyrwyr yn cefnogi polisi Llywodraeth Cymru ar fod yn 'Genedl Noddfa'.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â phwyntiau 1-8.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

10 Ionawr 2024